Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022
Amser:
14.04 -
16.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12932
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Paul Davies AS Russell George AS John Griffiths AS Jenny Rathbone AS Jack Sargeant AS Peredur Owen Griffiths AS (yn lle Llyr Gruffydd AS) |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd David Rees AS yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS a Llyr Gruffydd AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ar ran Llyr Gruffydd. Datganodd Jack Sargeant AS fuddiant fel aelod di-dâl o gonsortiwm prosiect bwrdd 5G y Pwyllgor Datblygu Economaidd, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
2 Strategaeth economaidd ar gyfer cymunedau arfordirol a gwledig
Gwnaeth y Pwyllgor graffu ar waith y Prif Weinidog ar bolisi’n ymwneud â’r strategaeth economaidd ar gyfer cymunedau arfordirol a gwledig.
3 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion amserol
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.
6 Trafod cyfarfodydd y dyfodol
Trafododd y Pwyllgor y dyddiadau a'r lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.